
Rhywogaethau brodorol o goed wedi'u tyfu o hadau wedi'u casglu o ranbarth sy'n briodol i'r man y bydd y coed yn cael eu plannu yw coed â tharddiad lleol.
Yn hanesyddol yng Nghymru, mae llawer o goed brodorol sydd wedi'u plannu wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd o ardaloedd gwahanol iawn (naill ai o iseldir y DU, neu'n waeth na hynny o gyfandir Ewrop). Yn aml iawn, bydd y coed hefyd wedi'u tyfu mewn meithrinfeydd yn yr iseldir, gydag amgylcheddau gwahanol iawn.
Mae corff o dystiolaeth wyddonol wedi dod i fodolaeth sy'n cefnogi tystiolaeth anecdotaidd sydd wedi bod o gwmpas ers tro o effeithiau negyddol posib plannu coed brodorol o hadau wedi'u mewnforio, yn enwedig ar fioamrywiaeth brodorol a chyfraddau goroesi gwael ymhlith eginblanhigion.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae barn yr arbenigwyr wedi newid i gydnabod pwysigrwydd defnyddio hadau â tharddiad lleol i dyfu coed brodorol, a bellach mae coed â tharddiad lleol yn cael eu hargymell fwyfwy os bydd grantiau'n cael eu dyfarnu, neu maen nhw'n amod o'r dyfarniadau hynny (e.e. Tir Gofal, Cynllun Grantiau Coetir/Coetiroedd Gwell i Gymru, ac ati).
Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o asiantaethau sy'n ymwneud â phlannu coed, gan gynnwys Coed Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Coed Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Flora Locale, Cyfarwyddiaeth Briffyrdd LlCC, ac Awdurdodau Unedol bellach yn argymell defnyddio coed â tharddiad lleol.
Y galw'n fwy na chyflenwad Coed â Tharddiad Lleol.
Oherwydd y newidiadau yma i arferion a gwerthfawrogiad ehangach o'r mater, mae yna farchnad fawr a chynyddol erbyn hyn am goed â tharddiad lleol.
Fodd bynnag, prin iawn o hyd yw'r meithrinfeydd coed ym Mhowys sy'n casglu hadau o goed brodorol i gynhyrchu eginblanhigion coed â tharddiad lleol.
Fis Medi 2003, fel rhan o ymchwil ehangach i'r farchnad, cwblhaodd y Comisiwn Coedwigaeth astudiaeth o sefyllfa'r galw a'r cyflenwad yn achos coed â tharddiad lleol ym Mhowys. Fis Tachwedd 2003, fe ariannodd Glasu astudiaeth dichonoldeb. Yn ystod yr astudiaeth, fe ymchwiliwyd i botensial masnachol cynhyrchu coed â tharddiad lleol a chyfleoedd i fusnesau ym Mhowys arallgyfeirio i'r cynnyrch arloesol a chynaliadwy yma.
Diolch i'r astudiaeth beilot yma a'i darganfyddiadau positif, llwyddodd Glasu i ddatblygu cynnig i gael nawdd mwy helaeth o gynllun Leader+, a chymeradwywyd y cynnig fis Chwefror 2007.
Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn cefnogi 3 o dyfwyr ym Mhowys i gynhyrchu coed â tharddiad lleol yn ogystal â gwneud ymdrechion sylweddol i roi cyhoeddusrwydd i fater coed â tharddiad lleol ymhlith cynulleidfa ehangach.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn tyfu coed â tharddiad lleol?
- Ewch i'n hadran tyfwyr
- cysylltwch â'r prosiect
Ydych chi am gael gwybod mwy am goed â tharddiad lleol?
- Ewch i'n hadran gwybodaeth
Ydych chi am brynu coed â tharddiad lleol?
- Ewch i'n cyfeirlyfr tyfwyr
- cysylltwch â'r prosiect







English