![]() ![]() ![]() |
Asesu anghenion hyfforddi
Cafwyd dau gyfarfod cymunedol ar ddechrau'r prosiect yma, y naill yng Ngogledd Powys a'r llall yn Ne Powys. Eu pwrpas oedd amlinellu gofynion a chyfleoedd busnes ar gyfer cynhyrchu coed meithrinfa, ac asesu pa fath o hyfforddiant a chefnogaeth oedd yn ofynnol.
Daeth tua 40 o bobl oedd eisoes yn dyfwyr i'r cyfarfodydd, ynghyd ag eraill oedd â diddordeb mewn dechrau meithrinfa goed. Trefnwyd nifer o achlysuron hyfforddi yn sgîl yr adborth o'r cyfnod hwn.
Hyfforddiant diweddar
Defnyddiau Atgynhyrchu Coedwigoedd. Seminar y Comisiwn Coedwigaeth yn edrych ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chasglu hadau a marchnata planhigion.
Meithrinfa Goed Glynllifon. Ymweliad ymchwiliol â meithrinfa sydd wedi hen sefydlu ac sy'n arbenigo mewn coed â tharddiad lleol yng Ngwynedd.
Gweithdai casglu hadau. Yn yr hydref 2005, cynhaliwyd y tri achlysur yma yng ngwarchodfa natur Gilfach a Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, a daeth tua 40 o bobl oedd â diddordeb mewn tyfu coed brodorol o hadau iddyn nhw. Gweithdai ymarferol oedd y rhain ar gyfer darpar dyfwyr i roi rhywfaint o'r wybodaeth dechnegol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer casglu, storio a thrin hadau coed a allai helpu'r hadau i egino'n well.
Gorsaf ymchwil Alice Holt. Cangen hadau coed y Comisiwn Coedwigaeth yw Alice Holt, ac mae'n cyflenwi tua 30 miliwn o hadau yn flynyddol i dyfu eginblanhigion ym meithrinfeydd coed y Comisiwn Coedwigaeth ei hun. Nod yr ymweliad oedd edrych ar rai o'r tŵls, y technegau a'r offer a ddefnyddir i drin a storio hadau coed. Yna gellid defnyddio'r wybodaeth yma i wella cyfraddau egino hadau sy'n cael eu hau yn y feithrinfa, gan wneud y cynhyrchiant yn fwy effeithiol, gwella ansawdd y planhigion a gwneud Busnesau Powys yn fwy proffidiol.
|
||||||||||||
|
Achlysuron Hyfforddi yn y Dyfodol
Os oes gennych unrhyw anghenion neu achlysuron hyfforddi eraill mewn golwg, cysylltwch â ni. |
|||||||||||||










English