
Mae'r wefan yma'n rhan o brosiect Datblygu Meithrinfeydd Coed â Tharddiad Lleol ym Mhowys, sef prosiect Glasu a ariennir trwy LEADER+ Gweithred 2.
Leader +
Menter Gymunedol Ewropeaidd yw LEADER+ â'r nod o gynorthwyo cymunedau gwledig i wella ansawdd bywyd a ffyniant economaidd yn eu hardal leol. LEADER+ yw trydydd Raglen LEADER, ac mae'n dilyn LEADER I a II. 
Glasu yw rhaglen LEADER+ yr UE ar gyfer Powys a Chanolbarth Cymru, gan hybu datblygu gwledig arloesol a chynaliadwy sy'n "ychwanegu gwerth" at gynhyrchion naturiol. Ar hyn o bryd mae yna 57 o grwpiau Leader yn y DU, saith ohonyn nhw yng Nghymru.
Gweithred 2
Cydweithredu Gan adeiladu ar lwyddiant dull Leader+ o weithredu, ffocws ychwanegol i brosiectau Gweithred 2 yw cydweithredu â grwpiau a phrosiectau Leader+ mewn rhanbarthau eraill.
Partneriaeth Ar hyn o bryd mae'r prosiect yma'n cydweithio ag Adventa (Leader+ Sir Fynwy), Cadwyn Clwyd (Leader+ Sir y Fflint a Sir Ddinbych) yn ogystal â phartneriaid eraill, gan gynnwys:

- Comisiwn Coedwigaeth Cymru
- Coed Cymru
- SIREN Cyf
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- Cyngor Sir Powys
- Cyngor Sir Fynwy
- Llywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau
- Fforwm Tirlun
Datblygiad cyflenwol Pwrpas cydweithredu yw datblygu adnoddau naturiol (ee, coedwigaeth, pren) y gwahanol ardaloedd Leader+ mewn modd cydlynol a chyflenwol.
Gwahanol ranbarthau, themâu cyffredin Mae rhaglenni Gweithred 2 yn golygu bod grwpiau a phrosiectau unigol Leader+ yn cydweithio dan thema gyffredin. Er enghraifft, mae un thema drosfwaol, sef “O'r Had i'r Hau" yn cwmpasu prosiectau a gweithredoedd unigol y tri phartner:
- Mae prosiect Meithrinfeydd Coed â Tharddiad Lleol Glasu yn canolbwyntio ar y galw am hadau coed ac eginblanhigion coed, a'u cyflenwad.
Mae hyn yn ategu:
- Menter Adfywio Coedlannau Adventa, sy'n canolbwyntio ar ddehongli coetiroedd, rheoli coetiroedd yn gynaliadwy, marchnata pren lleol a chefnogi cyflogaeth leol. Gwelwch isod i gael mwy o fanylion.
- Menter Adfywio Coedlannau Cadwyn Clwyd, lle bydd arwyddocâd treftadaeth coetiroedd yn cael ei ddefnyddio i frandio a marchnata cynhyrchion newydd o goetiroedd hynafol, gan gefnogi cyflogaeth leol gynaliadwy. Gwelwch isod i gael mwy o fanylion.
Rhannu Gwybodaeth ac Arfer Gorau Yn ogystal â chyfathrebu rheolaidd, ad hoc rhwng swyddogion prosiect y gwahanol ranbarthau, mae amrywiaeth o fesurau yn cynorthwyo ymhellach â chydweithredu, gan gynnwys: Byrddau Trafod Cydweithrediadol chwarterol, yn cwblhau Astudiaeth a Chynhadledd Dadansoddi Cymharol er mwyn rhannu gwybodaeth ac Arfer gorau.
Llywodraethiant a rheolaeth
Meithrinfeydd Coed Powys
Mae Cydlynydd Coed â Tharddiad Lleol (Cliff Webb) a Rheolwr Prosiect (Lee Price) yn rheoli gweithrediadau o ddydd i ddydd y prosiect yn Glasu. Hefyd, bydd grŵp llywio'n cyfarfod pob chwarter i ddarparu mwy o wybodaeth ar gyfer y prosiect ac i'w arwain. Mae'r grŵp llywio'n cynnwys cynrychiolwyr sefydliadau ac unigolion preifat sydd â diddordeb, gan gynnwys:
- Coed Cymru
- Comisiwn Coedwigaeth Cymru
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- Cyngor Sir Powys
- Fforwm Tirlun
- Sector preifat
Hefyd, bydd rhai aelodau o grŵp llywio'r prosiect yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Trafod Cydweithredol, sy'n cydlynu'r gweithredu ar y cyd rhwng partneriaid prosiectau gweithred 2, sef Glasu, Adventa a Chadwyn Clwyd.
Glasu
Mae Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl) yn rheoli'r holl grwpiau Leader+, fel Glasu. Partneriaethau yw'r rhain sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned leol, gyda thraean o aelodau'r bwrdd yn dod o'r sector preifat, traean o'r sector cyhoeddus a thraean o'r sector gwirfoddol. I gael mwy o fanylion ewch i http://www.glasu.org.uk/.
Partneriaid prosiectau - Adventa: Adfywio coedlannau

Crynodeb o'r prosiect:
Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy, Coed Cymru a SIREN Cyf, mae Adventa yn cynorthwyo â datblygu Canolfan Hyfforddi Coed Gwent i ddatblygu canolfan ymwelwyr yng Nghoed Gwent a fydd yn hybu natur unigryw coetiroedd Sir Fynwy a'r cynhyrchion pren a gynhyrchir o'u hadnoddau. Hyd yma, mae gan Goed Gwent:
- bentwr stoc rheoledig o bren safon-FSC o ffynonellau lleol;
- gweithdy pren sy'n cynhyrchu cynhyrchion pren o ansawdd allan o bren caled Cymreig sydd wedi'i reoli'n gynaliadwy, ac sy'n cynnig hyfforddiant a chyflogaeth â thâl i grwpiau sydd dan anfantais gymdeithasol.
- Cyfeirlyfr Busnesau Pren Sir Fynwy i hybu'r diwydiant pren lleol, ac i ddangos dolennau'r gadwyn gyflenwi o'r cynnyrch crai i'r cynnyrch gorffenedig
- astudiaeth dichonoldeb / cynllun busnes ar gyfer datblygu canolfan ymwelwyr yng Nghoed Gwent a fydd yn ymchwilio i'r meysydd canlynol;

- strategaeth dehongli coetiroedd yn nhermau datblygu llwybrau cerdded sy'n bodoli / rhai newydd, datblygu llwybrau seiclo newydd a datblygu dehongliadau o'r coetiroedd.
Partneriaid prosiect - Cadwyn Clwyd: Adfywio coedlannau







English