Amdanom Ni | Gwybodaeth am Goed Tharddiad Lleol | Gwybodaeth Prynu | Gwybodaeth Tyfu | Cyfeirlyfr Tyfwyr | Cysylltu Ni

Chwilio'r Safle


Holly Leaves
© 2006 Glasu

Newyddion




Darllen Mwy ...

1
Darllen Mwy ...

Ymweliad Ymchwil ar gyfer Meithrinfeydd Coed Powys
Tuesday 06 June 2006

Alice Holt Research Visit for Powys Tree Nurseries
Aeth 10 o entrepreneuriaid o Bowys i Farnham, Swydd Surrey yn ddiweddar i ddysgu mwy am y wyddoniaeth wrth wraidd trin a storio hadau coed. Mae pob un o'r ymwelwyr wrthi'n edrych ar y cyfle i ddechrau busnesau meithrinfeydd coed, yn cyflenwi coed brodorol wedi'u tyfu o hadau wedi'u casglu yn lleol, ym Mhowys.
 
 
Nod yr ymweliad oedd edrych ar rai o'r tŵls, y technegau a'r offer a ddefnyddir i drin a storio hadau coed. Yna gellir defnyddio'r wybodaeth yma i wella cyfraddau egino hadau sy'n cael eu hau yn y feithrinfa, gan wneud y cynhyrchiant yn fwy effeithiol, gwella ansawdd y planhigion a gwneud busnesau Powys yn fwy proffidiol.
 
Ymweliad ag Alice Holt, cangen hadau coed y Comisiwn Coedwigaeth oedd hwn. Yma maen nhw'n cydlynu cyflenwad oddeutu 30 miliwn o hadau a ddefnyddir yn flynyddol i dyfu eginblanhigion ym meithrinfeydd coed y Comisiwn Coedwigaeth ei hun.
 
Cafodd yr ymwelwyr eu tywys o amgylch y labordai ymchwil a chyfleusterau'r feithrinfa, gan drafod materion fel glanhau, trin, storio hadau coed a phrofi hadau.
 
“Roedd hon yn daith addysgiadol, a ddarparodd rhywfaint o wybodaeth ymarferol ar storio a phrosesu hadau, a dadl bryfoclyd ynghylch tarddiad…cefais hyn yn brofiad gwerthfawr iawn,” meddai Callum Johnston, sy'n rhedeg Meithrinfa Tan y Llyn ger Meifod ym Mhowys.
 
Trefnwyd yr ymweliad fel rhan o raglen hyfforddiant parhaus a gynigir gan “Meithrinfeydd Coed Powys”. Prosiect Glasu yw hwn, sy'n hybu cyfle busnes i gyflenwi coed brodorol wedi'u tyfu o hadau lleol ym Mhowys, ac sy'n cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd plannu'r Coed Brodorol hyn â Tharddiad Lleol, fel y'u gelwir.
 
Yn ôl Cliff Webb, cydlynydd prosiect Glasu, "Mae'r offer a'r cyfleusterau yn Alice Holt yn amlwg wedi'u cynllunio ar gyfer gweithrediadau ar raddfa lawer mwy na'r hyn y byddai tyfwyr unigol ym Mhowys am ei wneud yn eu meithrinfeydd eu hunain o bosib. Fodd bynnag, mae'r egwyddorion yr un fath ac rwy'n siŵr y bydd gweld y gweithrediadau'n ysgogi syniadau ymhlith yr ymwelwyr i ddatblygu eu hoffer a'u hatebion ymarferol eu hunain ar gyfer trin hadau ar raddfa lai."
 
Mae tarddiad coeden yn ymwneud â'r had y tyfwyd hi ohono, yn benodol y lle y casglwyd yr had ynddo. Ceir tystiolaeth bod coed brodorol wedi'u tyfu o hadau sydd wedi'u casglu yn lleol yn cynnig nifer o fuddiannau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol:
 
  • Gwell cyfraddau goroesi. Mae cyfansoddiad genetig coed a llwyni brodorol â tharddiad lleol yn sicrhau eu bod wedi addasu'n well i'r amodau lleol a geir yng Nghymru. Mae plannu coed sydd wedi addasu'n well yn sicrhau gwell cyfraddau goroesi, gan osgoi costau ailblannu.
  • Cadw bywyd gwyllt lleol. Yn hanesyddol yng Nghymru, mae llawer o goed brodorol sydd wedi'u plannu wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd o ardaloedd gwahanol iawn (naill ai o iseldir y DU, neu'n waeth na hynny o gyfandir Ewrop). Gall nodweddion genetig pwysig fod yn arwyddocaol wahanol mewn coed a dyfir o hadau sydd wedi'u mewnforio, gan ddylanwadu ar yr amser blaguro, blodeuo a ffrwytho, a tharfu ar y cydbwysedd brau rhwng y coed brodorol a'r bywyd gwyllt maen nhw'n ei gynnal.
  • Lleihau newid yn yr hinsawdd. Mae ffynonellu coed a hadau yn lleol yn cwtogi ar gostau cludiant ac yn lleihau llygredd. Rhaid treulio mwy o amser a milltiroedd ar y ffordd pan fydd meithrinfeydd y tu allan i Gymru'n teithio i gasglu hadau coed Cymreig, yna'n eu cludo'n ôl i'r feithrinfa ac unwaith eto'n cludo'r eginblanhigion i Gymru i'w plannu.
  • Diogelu cyflogaeth leol. Wrth gefnogi busnes meithrinfa lleol ceir effaith lluosogi ar yr economi lleol, gyda gweithwyr yn gwario'u harian ar nwyddau a gwasanaethau lleol. Mae yna gyfleoedd i fentrau meithrinfeydd greu swyddi amser llawn, a hefyd i dirfeddianwyr sydd eisoes yn bodoli arallgyfeirio, gan ddatblygu swyddi meithrinfa rhan-amser i ychwanegu at eu hincwm.
  • Cadw treftadaeth naturiol leol. Bellach, mae yna werthfawrogiad cyffredin o fanteision amgylcheddol ac economaidd plannu coed brodorol, yn hytrach nag, er enghraifft, conwydd amrodorol. Mae coed a choetiroedd brodorol, yn enwedig gweddillion coetiroedd hynafol, yn rhan hanfodol o dirweddau lleol, gan gadw nodwedd hanesyddol y rhanbarth a'i wneud yn fwy deniadol i dwristiaid.
  • Manteision cymdeithasol a manteision o ran hamdden ac iechyd. Ceir llawer o ddogfennaeth sy'n nodi bod gweld a chael profiad o fannau gwyrdd naturiol, gan gynnwys coetiroedd, yn beth llesol i iechyd cymdeithasol a phersonol.  Mae ymwelwyr yn dod i werthfawrogi coetiroedd fwyfwy, nid yn unig y profiad cyffredinol o goed a llwyni, ond hefyd oherwydd dealltwriaeth ddyfnach o'r bioamrywiaeth mae unrhyw goetir yn ei gynnal. Gall profiadau o'r fath gynnig manteision emosiynol ac ysbrydol dyfnach i les ein meddwl.
 
 
Diolch i: Peter Gosling o Ymchwil Coedwigaeth, a helpodd i drefnu'r ymweliad, ac i staff eraill Ymchwil Coedwigaeth a gyfrannodd at y diwrnod (Alison Melvin, Corinne Baker, Shelagh McCartan a Richard Jinks).


News Archive in Welsh


(Wednesday 28 May 2008)


(Thursday 30 November 2006)

Ymweliad Ymchwil ar gyfer Meithrinfeydd Coed Powys
(Tuesday 06 June 2006)

Glasbrint ar gyfer rheoli ffermydd yn gynaliadwy
(Thursday 25 May 2006)

Lansio'r Wefan
(Wednesday 10 May 2006)

© 2017 Tree Nurseries of Powys | Testun | Native Trees English VersionEnglish
Amdanom Ni | Rhesymau Dros y Prosiect | Nawdd a Gwariant | Partneriaid a Llywodraethiant | | Cysylltu Ni | Gwybodaeth i Dyfwyr | Hyfforddiant a Chyngor | Plannu Coed Brodorol er Bioamrywiaeth | Cysylltau Defnyddiol | Pethau i'w Lawrlwytho sy'n Ymwneud Choed Brodorol | Pam Plannu Coed Brodorol | Tyfwyr Coed Brodorol ym Mhowys | Siop Coed Brodorol