
- Gwrychoedd a lleiniau cysgodi.
- Plannu coetiroedd newydd.
- Rheoli ac ailstocio coetiroedd.
- Coetiroedd coridorau afonydd a rheoli erydiad ar lannau afonydd.

Mae yna farchnad sy'n tyfu hefyd am goed mwy (3+ oed) mewn potiau, at ddibenion tirlunio fel:
- Plannu ar ymylon ffyrdd.
- Tirlunio i guddio gwaith gosod pibellau LNG.
- Ar gyfer arddangosfeydd/i'w llogi i arddangoswyr mewn sioeau amaethyddol/garddwriaethol ac hyd yn oed ar gyfer cefndiroedd setiau ffilmiau.
Mae sefydliadau sy'n ariannu plannu o'r fath (C.C.G.C., y Comisiwn Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfarwyddiaeth Briffyrdd Ll.C.C., ac ati) wedi symud tuag at argymell defnyddio coed â tharddiad lleol fel amod ariannu.
Hefyd, mae cyfleoedd diweddar (megis Coetiroedd Gwell i Gymru a Chronfa Her Ehangu Coetiroedd Brodorol Cynllun Grantiau Coetir) wedi mynd cam ymhellach, gan ddynodi bod yn rhaid defnyddio coed â tharddiad lleol.
Ac yn olaf, wrth i strwythur ehangach taliadau amaethyddol gael ei rhesymoli, gosodir mwy o bwyslais ar fesurau amaeth-amgylchedd, gan gynnwys defnyddio stoc plannu â tharddiad lleol.
Y galw posibl am goed a llwyni brodorol â tharddiad lleol ym Mhowys, 2003-4.*
|
Cynlluniau
|
Nifer y coed a'r llwyni yn fras
|
Rhywogaethau nodweddiadol y mae gofyn amdanyn nhw
|
|
Adfer gwrychoedd Tir Gofal
|
240, 000
|
Y Ddraenen Wen, y Gollen, y Ddraenen Ddu, y Gelynnen
|
|
Ardaloedd Amgylcheddol Sensitif
|
52, 000
|
Yr un fath â Tir Gofal
|
|
Cynllun Grantiau Coetir (Coetiroedd Gwell i Gymru bellach)
|
104, 000
|
Y Dderwen Ddigoes, y Fedwen Arian a'r Fedwen Gyffredin. Yr Onnen, y Gollen, y Gelynnen, ac ati
|
|
Cynlluniau Afonol y Comisiwn Coedwigaeth (1993-96)
|
120, 000
|
Yr Helygen, y Wernen,
|
|
Ailstocio Menter Coedwigaeth
|
175, 000
|
Fel CGC / CGG
|
|
Cyfanswm y galw blynyddol
|
691, 000
|
|
*o: Astudiaeth i ymchwilio i'r galw am goed a llwyni â tharddiad lleol ym Mhowys, a'u cyflenwad, gan Evelyn Over. Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Medi 2003.







English