
Cynyddu'r defnydd a'r ymwybyddiaeth o goed â tharddiad lleol (eginblanhigion coed brodorol a dyfir o hadau a gesglir yn ardal Canolbarth Cymru).
Yr hyn rydym ni'n ei wneud:
- Cefnogaeth busnes i dyfwyr ym Mhowys sy'n cyflenwi eginblanhigion a hadau coed â tharddiad lleol.
- Hybu plannu coed priodol, brodorol, yn benodol eginblanhigion coed â tharddiad lleol.
Lle rydym ni'n gweithio:
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar Bowys a Chanolbarth Cymru, er mewn rhai amgylchiadau gallwn ni weithio gyda phobl y tu allan i'r ardal yma.
Parhad y prosiect:
Dechreuodd y prosiect yma fis Ebrill 2005 a bydd yn rhedeg hyd fis Mehefin 2008, diolch i nawdd oddi wrth Leader+ yr UE, LlCC a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Pam Plannu Coed a Llwyni Brodorol â Tharddiad Lleol

-
Mae coed sy'n cael eu hystyried yn rhai brodorol i Gymru yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau llydanddail a geir mewn lleoedd fel coetiroedd (ee y dderwen, yr onnen, y fedwen, yr helygen, y wernen, ac ati) neu mewn gwrychoedd (ee y ddraenen wen, y gollen, y ddraenen ddu, y fasarnen fach, ac ati).
-
Bellach, mae yna werthfawrogiad cyffredin o fanteision amgylcheddol ac economaidd plannu coed brodorol, yn hytrach nag, er enghraifft, conwydd amrodorol.
-
Coed brodorol a dyfir o hadau a gesglir yn lleol yw coed â tharddiad lleol.
-
Yn hanesyddol yng Nghymru, mae llawer o goed brodorol sydd wedi'u plannu wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd o ardaloedd gwahanol iawn (naill ai o iseldir y DU, neu'n waeth na hynny o gyfandir Ewrop).
Mae yna sawl mantais amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i blannu coed â tharddiad lleol:

- Mae cyfansoddiad genetig coed a llwyni brodorol â tharddiad lleol yn sicrhau eu bod wedi addasu'n well i'r amodau lleol a geir yng Nghymru.
- Mae plannu coed sydd wedi addasu'n well yn sicrhau gwell cyfraddau goroesi, gan osgoi costau ailblannu.
- Gall nodweddion genetig pwysig fod yn arwyddocaol wahanol mewn coed a dyfir o hadau sydd wedi'u mewnforio, er enghraifft amser blaguro, blodeuo a ffrwytho, gan darfu ar y cydbwysedd brau rhwng y coed brodorol a'r bywyd gwyllt maent yn ei gynnal.
- Mae ffynonellu coed a hadau yn lleol yn cwtogi ar gostau cludiant, yn lleihau llygredd ac yn helpu i ddiogelu cyflogaeth leol.
- Mae'r rhan fwyaf o asiantaethau sy'n ymwneud â phlannu coed, gan gynnwys Coed Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Coed Cadw, Flora Locale, Cyfarwyddiaeth Briffyrdd LlCC. ac Awdurdodau Unedol bellach yn argymell defnyddio coed â tharddiad lleol.
Gwelwch ein hadrannau prynwyr a gwybodaeth i gael mwy o fanylion.
Glasu a Phrosiect Meithrinfeydd Coed â Tharddiad Lleol Powys
Sut gall y prosiect eich helpu chi?

Glasu yw rhaglen LEADER+ yr UE ar gyfer Powys a Chanolbarth Cymru, gan hybu datblygu gwledig arloesol a chynaliadwy sy'n "ychwanegu gwerth" at gynhyrchion naturiol.
Mae Prosiect Meithrinfeydd Coed â Tharddiad Lleol Glasu yn cefnogi tyfwyr sy'n cynhyrchu coed brodorol, a dyfir o hadau a gesglir yn lleol, trwy:
- Grantiau i gynyddu gallu tyfwyr i gynhyrchu coed â tharddiad lleol.
- Cyngor i dyfwyr ar dyfu coed, a ddarperir gan Gydlynydd Coed â Tharddiad Lleol amser llawn.
- Ymweliadau hyfforddi a chyngor technegol.
- Cydlynu marchnata coed â tharddiad lleol ym Mhowys, er enghraifft: trwy gefnogi tyfwyr mewn sioeau masnach.
- Cefnogi cydweithio rhwng tyfwyr unigol i gwtogi ar gostau a gwella'r marchnata.
Gwelwch ein hadran tyfwyr i gael mwy o wybodaeth.







English