Chwilio'r Safle |
Yr Adran Yma |
Pam Plannu Coed Brodorol |
Hazel Leaves © 2006 Glasu |
Newyddion |
![]() Darllen Mwy ... 1 Darllen Mwy ... |
Gwell cyfraddau goroesi. Mae cyfansoddiad genetig coed a llwyni brodorol â tharddiad lleol yn sicrhau eu bod wedi addasu'n well i'r amodau lleol a geir yng Nghymru. Mae plannu coed sydd wedi addasu'n well yn sicrhau gwell cyfraddau goroesi, gan osgoi costau ailblannu. Cadw bywyd gwyllt lleol. Yn hanesyddol yng Nghymru, mae llawer o goed brodorol sydd wedi'u plannu wedi'u tyfu o hadau a gasglwyd o ardaloedd gwahanol iawn (naill ai o iseldir y DU, neu'n waeth na hynny o gyfandir Ewrop). Gall nodweddion genetig pwysig fod yn arwyddocaol wahanol mewn coed a dyfir o hadau sydd wedi'u mewnforio, gan ddylanwadu ar yr amser blaguro, blodeuo a ffrwytho, a tharfu ar y cydbwysedd brau rhwng y coed brodorol a'r bywyd gwyllt maen nhw'n ei gynnal. Lleihau newid yn yr hinsawdd. Mae ffynonellu coed a hadau yn lleol yn cwtogi ar gostau cludiant ac yn lleihau llygredd. Rhaid treulio mwy o amser a milltiroedd ar y ffordd pan fydd meithrinfeydd y tu allan i Gymru'n teithio i gasglu hadau coed Cymreig, yna'n eu cludo'n ôl i'r feithrinfa ac unwaith eto'n cludo'r eginblanhigion i Gymru i'w plannu. Diogelu cyflogaeth leol. Wrth gefnogi busnes meithrinfa lleol ceir effaith lluosogi ar yr economi lleol, gyda gweithwyr yn gwario'u harian ar nwyddau a gwasanaethau lleol. Mae yna gyfleoedd i fentrau meithrinfeydd greu swyddi amser llawn, a hefyd i dirfeddianwyr sydd eisoes yn bodoli arallgyfeirio, gan ddatblygu swyddi meithrinfa rhan-amser i ychwanegu at eu hincwm. Cadw treftadaeth naturiol leol. Bellach, mae yna werthfawrogiad cyffredin o fanteision amgylcheddol ac economaidd plannu coed brodorol, yn hytrach nag, er enghraifft, conwydd amrodorol. Mae coed a choetiroedd brodorol, yn enwedig gweddillion coetiroedd hynafol, yn rhan hanfodol o dirweddau lleol, gan gadw nodwedd hanesyddol y rhanbarth a'i wneud yn fwy deniadol i dwristiaid. Manteision cymdeithasol a manteision o ran hamdden ac iechyd. Ceir llawer o ddogfennaeth sy'n nodi bod gweld a chael profiad o fannau gwyrdd naturiol, gan gynnwys coetiroedd, yn beth llesol i iechyd cymdeithasol a phersonol. Mae ymwelwyr yn dod i werthfawrogi coetiroedd fwyfwy, nid yn unig y profiad cyffredinol o goed a llwyni, ond hefyd oherwydd dealltwriaeth ddyfnach o'r bioamrywiaeth mae unrhyw goetir yn ei gynnal. Gall profiadau o'r fath gynnig manteision emosiynol ac ysbrydol dyfnach i les ein meddwl.