A hoffech chi dyfu a gwerthu coed brodorol?
Mae yna alw mawr a chynyddol am goed a llwyni brodorol wedi'u tyfu o hadau sydd wedi'u casglu yn lleol.
Fodd bynnag, prin iawn yw'r meithrinfeydd coed lleol ym Mhowys a Chymru sy'n cynhyrchu'r coed yma â tharddiad lleol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn tyfu a gwerthu coed, mae rhai enghreifftiau o'r adnoddau sylfaenol gofynnol wedi'u rhestru isod, er nad yw'r rhain yn gynhwysfawr:
Sgiliau – Mae tueddfryd a brwdfrydedd yr un mor bwysig â phrofiad o dyfu planhigion. Nid yw'n hanfodol bod â phrofiad o dyfu coed, gan fod rhywfaint o gyngor a hyfforddiant ar gael trwy'r prosiect yma.
Tir – mae angen o leiaf ¼ erw mae'n debyg i ddechrau cynhyrchu coed yn effeithiol ac yn fasnachol
Amser – yn enwedig ar gyfer hau hadau yn y gwanwyn a chasglu hadau yn yr hydref.
Cefnogaeth i dyfwyr sydd ar gael trwy'r prosiect yma:
Dyfarniadau. Cronfa Fenter Meithrinfeydd, sy'n cynnig dyfarniadau i ariannu datblygu meithrinfeydd, sy'n cynyddu gallu tyfwyr i gynhyrchu coed â tharddiad lleol.
Cyngor i dyfwyr ar dyfu coed, a ddarperir gan Gydlynydd Coed â Tharddiad Lleol amser llawn.
Hyfforddiant, achlysuron, ymweliadau a chyngor technegol. Ymhlith achlysuron sydd wedi'u trefnu hyd yma mae: seminarau ymarferol ar gasglu hadau coed; ymweliadau â Meithrinfa Goed Glynllifon; ac Uned Hadau y Comisiwn Coedwigaeth yn Alice Holt.
Cydlynu marchnata coed â tharddiad lleol ym Mhowys, er enghraifft: trwy gefnogi tyfwyr mewn sioeau masnach; cynghori asiantaethau sy'n ymwneud â phlannu coed; datblygu cynlluniau tyfu ar gontract; neu ddatblygu gwerthiannau trwy'r rhyngrwyd.
Cefnogaeth ar gyfer cydweithredu rhwng tyfwyr unigol, er enghraifft ffynonellu swmp gyflenwadau i gwtogi ar gostau a gwella'r marchnata ar gyfer tyfwyr bach unigol.
Ydych chi am ddysgu mwy am dyfu coed o hadau? ~ Ewch i'n hadran Gwybodaeth i gael pethau i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim a manylion cyhoeddiadau defnyddiol eraill.
I gael mwy o wybodaeth am sut i sefydlu meithrinfa goed, i drefnu ymweliad i asesu'r safle rydych yn cynnig ei ddefnyddio ar gyfer meithrinfa, neu i drafod sut y gallwn ni eich cefnogi, yna cysylltwch â ni.
© 2008 Tree Nurseries of Powys | | English